HM Courts & Tribunals Service - Who we are Welsh

Pwy ydym ni

Un o asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM). Rydym yn darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y system gyfiawnder ledled Cymru a Lloegr, gan sicrhau bod cyfiawnder yn gweithio i bawb.

Mae ein system gyfiawnder yn amddiffyn ein hawliau a’n rhyddfreiniau sylfaenol. Mae’n pen-congl o’n cymdeithas fodern a rhaid iddi wasanaethau pawb sydd ei hangen, pan fyddant ei hangen. O’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, i deuluoedd mewn argyfwng, hawlwyr a busnesau masnachol – mae gennym gyfrifoldeb i weinyddu system gyfiawnder sy’n hygyrch i bawb ac sy’n gweithredu’n effeithlon.

Mae’r broses ddiwygio yn golygu bod yna ffyrdd gwell i gael mynediad at gyfiawnder i’r sawl sydd ei angen, prosesau cyflymach a symlach ar gyfer defnyddwyr proffesiynol y llysoedd a’r cyhoedd fel ei gilydd a gweithlu sydd mor effeithiol ag y gall fod. Mae’n golygu rhoi mwy o amser i farnwyr wneud eu gwaith trwy leihau gwaith papur diangen a neilltuo amser yn y llys ar gyfer yr achosion mwyaf cymhleth. Mae’n golygu gwneud cyfiawnder yn haws.

Mae ein staff yn helpu i ddarparu mynediad at gyfiawnder i bob unigolyn a phob busnes yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys:

• dioddefwyr a thystion troseddau
• diffynyddion a gyhuddir o gyflawni troseddau
• defnyddwyr sydd mewn dyled neu sydd ag anghydfodau eraill
• pobl sy’n rhan o broses fabwysiadu neu ddiogelu plant
• busnesau sy’n rhan o anghydfodau masnachol
• unigolion sy’n haeru eu hawliad cyflogaeth neu’n herio penderfyniadau cyrff y llywodraeth
• pobl a effeithir gan berthynas yn chwalu.

Rydym yn gyfrifol am:
• ddarparu prosesau gweinyddol i gefnogi system llysoedd a thribiwnlysoedd sy’n deg ac yn effeithlon
• cefnogi barnwriaeth annibynnol i weinyddu cyfiawnder
• sbarduno gwelliannau ar draws bob agwedd ar weinyddiaeth y llysoedd a’r tribiwnlysoedd
• cyd-weithio’n effeithiol gyda sefydliadau ac asiantaethau cyfiawnder eraill, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, i wella mynediad at gyfiawnder
• gweithio gydag adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth i wella ansawdd ac amseroldeb eu penderfyniadau, a fydd yn lleihau nifer yr achosion fydd yn dod gerbron y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Moderneiddio nawr i ddatblygu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol

Rydym wedi bod yn moderneiddio ein gwasanaethau ers 2016, gan ddarparu gwasanaethau digidol sy’n hawdd i’w defnyddio, gan wella effeithlonrwydd ar yr un pryd. Mae’r weledigaeth wreiddiol ar gyfer diwygio – sef moderneiddio ac uwchraddio ein system gyfiawnder fel ei bod yn gweithio’n well byth ar gyfer pawb – yn parhau i fod yn berthnasol. Fodd bynnag, cydnabyddwn fod y byd wedi newid ers 2016 – a hynny ar gyflymder – o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 a ddechreuodd yn 2020.

Nid yw cael gwasanaethau digidol a defnyddio technoleg glywedol rhyw dro yn y dyfodol yn weledigaethol mwyach; mae’n hanfodol, rŵan. Mae’n ofynnol os ydym am aros yn berthnasol a bod yn rhan o’r byd modern oherwydd ni fydd yn bosibl gwneud gwelliannau yn y dyfodol os nad ydynt wedi’u tanategu gan systemau cadarn a gwydn sy’n addas ar gyfer gofynion yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r fideos hyn yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd gyda chyfieithiad Cymraeg yn cael ei wneud yn y man. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.


Ein gwerthoedd

Ymunwch â GLlTEM fel gweithiwr a chewch eich cyflwyno i’r pedwar gwerth sy’n ein harwain, yn ein hysbrydoli ac yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus rhagorol i bawb.

Pwrpas

Dyngarwch

Gonestrwydd

Gyda’n gilydd

Pwrpas
Mae cyfiawnder yn bwysig. Rydym yn falch ein bod yn gwneud gwahaniaeth i’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.

Dyngarwch
Rydym yn trin eraill fel yr hoffem gael ein trin. Rydym yn gwerthfawrogi, yn cefnogi ac yn annog pawb i fod y gorau y gallant fod.

Gonestrwydd
Rydym yn arloesi, yn rhannu, ac yn dysgu. Rydym yn ddewr ac yn chwilfrydig, gan chwilio am syniadau i wella’r gwasanaethau a darparwn.

Gyda’n gilydd
Rydym yn gwrando, yn cydweithio ac yn cyfrannu, gan weithio gyda’n gilydd at ein pwrpas cyffredin.

Mae’r fideos hyn yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd gyda chyfieithiad Cymraeg yn cael ei wneud yn y man. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.