HM Courts & Tribunals Service - Working here Welsh

Gweithio yma

Rydym yn sefydliad amrywiol gydag amrywiaeth enfawr o rolau ledled Cymru a Lloegr. Mae’n gyfnod hynod gyffrous i ymuno â ni, oherwydd yn ogystal â pharhau i sicrhau cyfiawnder yn ddyddiol, rydym hefyd yn ymgymryd â rhaglen Ddiwygio o’r math cyntaf.

Rydym yn angerddol am greu gwell cyfiawnder i bawb yn y DU. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cynhwysol ac amrywiol lle mae cyfleoedd i bawb ddatblygu. Mae gennym leoliadau ledled Cymru a Lloegr, ac amrywiaeth o rolau, felly mae’n debygol iawn y bydd gennym swydd sy’n addas i chi – beth bynnag yw eich sgiliau a’ch cryfderau.

Dros yr erlyniad,
Dros yr amddiffyniad,
Dros bawb.

Os gallwch ddangos ymrwymiad mewn meysydd newid parhaus, rheoli ansicrwydd, a chynllunio gwasanaethau o amgylch defnyddwyr, yna gallech hyd yn oed helpu i arwain y newidiadau y byddwn yn ymgymryd â hwy fel rhan o’n rhaglen ddiwygio.

Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau barnwrol arloesol sy’n gweithio’n well i’r cyhoedd. Gyda thros £1bn o gyllid, hon yw’r rhaglen fwyaf uchelgeisiol o’i math yn unrhyw le yn y byd.

Mae’n rhaglen wirioneddol arloesol, ac mae angen gweithlu hyblyg i’w chyflawni. Os ydych yn dalentog, yn frwdfrydig ac yn teimlo’n gyffrous am yr her y bydd y rhaglen ddiwygio yn ei chynnig, yna mae hwn yn gyfle unigryw i gymryd rhan ar ddechrau ein trawsnewidiad.

Mae ein Rhaglen Ddiwygio eisoes wedi cyflawni

  • cyflwyno system newydd yn yr ystafell llys yn genedlaethol, sy’n cofnodi canlyniadau achosion yn ddigidol
  • gwasanaeth gwrandawiadau fideo sydd wedi cael ei ymestyn o achosion treth i gynnwys achosion eiddo a gwrandawiadau tribiwnlys cyflogaeth.
  • system ddigidol newydd sy’n darparu gwybodaeth achos a rennir am achosion troseddol sydd ar gael i’r heddlu, GEG, y llysoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith.
  • Gwasanaeth Hawliadau Arian Sifil, gyda’r hawliad cyflymaf yn cael ei gyflwyno a’i dalu o fewn dwy awr.
  • Gwasanaeth Ysgaru ar-lein, gwasanaeth Gweithdrefn Un Ynad a Gwasanaeth Nawdd Cymdeithasol a Gofal Plant, gyda phob ohonynt yn cael eu darparu o’n canolfannau.
  • Gwasanaeth Profiant ar-lein sy’n rhoi hyd at 3,500 o grantiau profiant yr wythnos.

Ein swyddfeydd CTSC cynllun agored newydd yng Ngheiau Salford

Mae ein canolfannau ar agor o 8am-8pm dydd Llun i ddydd Gwener ac 8am – 2pm ar ddyddiau Sadwrn. Mae rhai o’n rolau yn dilyn patrymau sifftiau penodol, ond byddwn yn gofyn ichi am eich dewisiadau o ran oriau gwaith yn y cam cyfweld a byddwn yn cytuno ar eich oriau gwaith terfynol pan fyddwn yn cynnig swydd i chi.