Ein Haddewid Pobl

Mae ein haddewid pobl yn cynnwys pedair elfen. Mae pob un yn unigryw i GLlTEM.

PWRPAS

Gwaith
go iawn

Rydych chi’n cefnogi system gyfiawnder sydd yn sylfaen i ddemocratiaeth ac mae eich gwaith yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl, ar adegau pan allant fod ar eu mwyaf bregus.

GYDA’N GILYDD

Gwaith tîm
go iawn

Rydych chi’n gweithio gyda phobl wych, sy’n cefnogi ei gilydd. Rydych yn rhan o deulu sy’n gwerthfawrogi cyfraniad unigol pawb ac yn ystyried eu hanghenion penodol. Mae gan bob un ohonom lais o ran yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n ei wneud.

DYNGARWCH

Buddion
go iawn

Mae ein buddion amrywiol yn sicrhau bod pawb yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu gwaith. Maent yn cynnwys cynllun pensiwn blaenllaw, arian parod a thalebau, a’r cyfle i weithio’n hyblyg.

BOD YN AGORED

Dysgu a datblygu go iawn

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi wireddu’ch potensial. Mae GLlTEM yn rhoi bob math o gyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau a chyflawni’ch uchelgeisiau, yn ogystal â’r llu o gyfleoedd yn y Gwasanaeth Sifil.

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r pedair elfen o’n Haddewid Pobl yn fwy manwl, gan esbonio’r hyn rydyn ni’n ei gynnig a’r hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl gennych chi.

Gwaith
go iawn

Mae ein gwaith yn sicrhau bod y system gyfiawnder yn gweithredu. Rydych chi’n cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o bwrpas inni.

Rydym yn addo i chi :

  • gyrfa mewn sefydliad sy’n fyd-enwog am ddarparu cyfiawnder
  • gwaith pwysig sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn
  • offer, prosesau a sgiliau newydd i roi ein gorau i bobl sy’n defnyddio’r system gyfiawnder a chael y gorau oddi wrth ei gilydd

Oherwydd eich bod chi’n:

Beth mae hynny’n ei olygu go iawn

Rydych chi’n cael y datblygiad cywir ar gyfer eich gyrfa: P’un a yw’n datblygu’ch sgiliau digidol, sgiliau arwain, neu sgiliau i gefnogi’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, mae eich dysgu wedi’i gynllunio o amgylch eich rôl a’ch gyrfa. Mae’r byd gwaith yn newid ac rydym wedi ymrwymo i newid gydag ef.

Rydych chi’n gweithio i sefydliad unigryw sy’n arwain y byd mewn cyfiawnder: Ni wnewch weithio yn unrhyw le arall fel system gyfiawnder y DU. Mae ein gwaith, ein pobl a’n hamgylchedd yn unigryw ac yn arloesol. Mae llywodraethau ledled y byd yn dilyn esiampl ein sefydliad ac rydym yn ymfalchïo yn hyn yn fawr.

Rydych chi’n gwneud i ddemocratiaeth weithio: Nid yw democratiaeth yn digwydd ar ei phen ei hun. Mae’n cymryd pobl ymroddedig i sicrhau bod ein system ddemocrataidd yn gweithredu bob dydd. Rydych chi’n ein helpu i wneud yn union hynny.

Rydych chi’n ein helpu ni i drawsnewid y system gyfiawnder: Rydym yn trawsnewid y system gyfiawnder gydag offer, prosesau a systemau newydd a gwell – ac mae gan bob un o’n pobl ran hanfodol i’w chwarae wrth lunio ein dyfodol. Mae hon yn her ddifrifol, ond mae’n ysgogol ac yn rhoi llawer o foddhad.

Beth mae ein pobl yn ei ddweud

“Rwy’n teimlo’n gyffrous i fod yn rhan o’n gwaith yn y Swyddfa Orfodaeth yng Nghymru, gan groesawu’r newidiadau a wneir trwy’r esblygiad cadarnhaol o’r busnes.”

Mark Hopkins, Swyddfa Orfodaeth Cymru,
Swyddog Gweinyddol

Gwaith tîm
go iawn

Rydych chi’n gweithio gyda phobl wych, sy’n cefnogi ei gilydd.

Rydym yn addo i chi:

  • y cyfle i fod yn rhan o dîm ffyddlon ac ymroddedig, lle rydych yn adeiladu perthnasoedd cryf a fydd yn para’n hir
  • rhywle lle byddwch bob amser yn cael eich trin â pharch
  • tîm sy’n eich cefnogi ac yn gofalu amdanoch chi, ac yn helpu gyda’ch datblygiad

Oherwydd eich bod chi’n:

  • gwerthfawrogi cyfraniad unigol pawb ac yn ystyried eu hanghenion personol
  • cydweithredu a chyfathrebu’n agored ac yn onest â’ch cydweithwyr
  • trin pawb â pharch
  • cefnogi’ch cydweithwyr a rhannu eich gwybodaeth, eich syniadau a’ch profiadau

Beth mae hynny’n ei olygu go iawn

Rydych chi’n rhan o’n teulu gwaith: Rydych chi’n rhan o dîm sy’n ystyried lles a hapusrwydd ei gilydd, ac sy’n ffurfio perthnasau cryf y gall pawb uniaethu â nhw.

Rydych chi’n cydweithio â phobl wych: Rydych chi’n gweithio gyda phobl dalentog y tu mewn a thu allan i GLlTEM, i wneud yn saff ein bod ni, gyda’n gilydd, yn sicrhau cyfiawnder.

Rydych chi’n gweithio mewn amgylchedd amrywiol a chynhwysol: Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o bopeth a wnewch yn GLlTEM. Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo gan ein uwch dîm ac yn agored i bawb, gan sbarduno newid a’n gwneud yn arloesol.

Mae gennych lais: Rydym yn disgwyl i chi rannu eich barn, i sicrhau ein bod ni bob amser yn gwella.

Rydych chi’n gweithio mewn lle sy’n gweithio i chi: Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein hamgylcheddau gwaith yn bodloni anghenion pawb sy’n gweithio yn GLlTEM.

Beth mae ein pobl yn ei ddweud

“Mae bod yn rhan o dîm Cefnogi Gweithrediadau gydag aelodau o fy ‘nheulu gwaith’ yn gwneud popeth yn werth chweil. Mae cael cydweithio â gwahanol bobl sydd â barn amrywiol yn helpu i greu newid cadarnhaol yn y gweithle. Mae hefyd yn braf gwybod bod eich llais bob amser yn cael ei glywed a’i barchu.”

Vimbai Nhamoinesu, Uned Gefnogi Ranbarthol Llundain a De Ddwyrain Lloegr ,
Swyddog Cefnogi Gweithrediadau

Buddion
go iawn

Mae ein buddion amrywiol yn sicrhau bod pawb yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu gwaith.

Rydym yn addo i chi:

  • pecyn buddion eang sydd wedi’i gynllunio i weithio i chi
  • y cyfle i weithio’n hyblyg, fel y gallwch gydbwyso’ch rôl yn GLlTEM a’ch bywyd

Oherwydd eich bod chi’n:

  • c cyflawni’r gwaith gorau y gallwch
  • dod o hyd i ffyrdd o weithio sy’n eich galluogi i fod ar eich mwyaf cynhyrchiol
  • cadw golwg bob amser am bobl sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn- ac yn cydnabod eu hymdrechion yn gyson

Beth mae hynny’n ei olygu go iawn

Rydych chi’n gweithio mewn ffordd gytbwys: Fe fydd adegau penodol pan fydd angen i chi fod yn y gwaith i gyflawni’ch rôl. Ond mae’r cyfle i weithio’n hyblyg yn golygu y gallwch chi gydbwyso’ch gwaith â’ch bywyd.

Fe gewch amser i ffwrdd â thâl pan fydd ei angen arnoch: Os ydych chi’n sâl, os bydd argyfwng yn codi, neu os oes angen i chi ofalu am rywun yn eich teulu, gallwch fod yn dawel eich meddwl nad ydych am golli tâl.

Fe gewch bensiwn sy’n arwain y farchnad: Yn wahanol i lawer o bensiynau sy’n dibynnu ar enillion buddsoddiad unigol, mae eich pensiwn yn GLlTEM yn gwarantu taliad penodol i chi pan fyddwch chi’n ymddeol.

Rydych yn cael eich cydnabod a’ch gwobrwyo am wneud eich gwaith yn dda: Rydych chi’n gwneud ymdrech ychwanegol neu’n cyflawni gwaith gwych, ac rydym yn sicrhau eich bod yn cael y ganmoliaeth a’r gwobrau go iawn rydych chi’n eu haeddu. Rydym yn gwneud hyn trwy ein sgyrsiau Effaith a Datblygiad Personol (PID) ac ein cynllun gwobrwyo a chydnabod sydd â strwythur pendant iddo.

Beth mae ein pobl yn ei ddweud

“Deuthum yn dad am y tro cyntaf yn ddiweddar ac roeddwn yn poeni am jyglo gwaith yn ogystal ag addasu i fywyd fel rhiant. Ond diolch i gefnogaeth fy nghydweithwyr a’r gallu i weithio’n hyblyg rwyf wedi dod o hyd i gydbwysedd ac yn ffynnu yn fy rôl yn GLlTEM ac fel tad.”

Jordan Meskell, Swyddfa Orfodaeth Cymru,
Swyddog Gweinyddol.

Dysgu a datblygu go iawn

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi wireddu’ch potensial

Rydym yn addo i chi:

  • cyfleoedd i ddatblygu’ch sgiliau
  • y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wireddu’ch potensial a chyflawni’ch uchelgeisiau
  • y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddefnyddio technoleg newydd ac addasu i ffyrdd modern o weithio

Oherwydd eich bod chi’n:

  • croesawu cyfleodd newydd i ddatblygu eich sgiliau
  • wastad yn chwilio am ffyrdd i wella’ch sgiliau
  • yn agored i roi a derbyn adborth
  • yn rhoi popeth rydych chi’n ei ddysgu ar waith

Beth mae hynny’n ei olygu go iawn

Rydych chi’n cael y datblygiad cywir ar gyfer eich gyrfa: P’un a yw’n datblygu’ch sgiliau digidol, sgiliau arwain, neu’r sgiliau i gefnogi’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, mae eich dysgu wedi’i gynllunio o amgylch eich rôl a’ch gyrfa. Mae’r byd gwaith yn newid ac rydym wedi ymrwymo i newid gydag ef.

Rydych chi’n cael mynediad i adnoddau dysgu o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil: Yn ogystal â’ch datblygiad sy’n benodol i GLlTEM, mae dysgu drwy adnodd dysgu’r Gwasanaeth Sifil – Civil Service Learning – yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau gydag adnoddau dysgu a ddarperir ledled y llywodraeth.

Rydych chi’n rhoi ac yn derbyn hyfforddiant parhaus: Rydych chi’n cael cefnogaeth arbenigol barhaus gan eich cydweithwyr – drwy wneud hyn rydych chi hefyd yn datblygu a gwella’ch sgiliau.

Rydych yn mynd â’ch talent ymhellach: Nid yw eich talent yn cael ei hesgeuluso. Ac os yw’n briodol ar gyfer eich gyrfa, mae gennym nifer o gynlluniau i ddatblygu’ch talent a all eich helpu i symud ymlaen gyda’ch gyrfa.

Rydych chi’n mwynhau gyrfa unigryw – a sawl ffordd i ddatblygu: Mae ehangder ein gwaith yn golygu eich bod chi’n cael profiadau heriol, gwerth chweil ac unigryw yn eich gyrfa, gyda’r cyfle i symud ymlaen o fewn GLlTEM neu’r Gwasanaeth Sifil yn ehangach.

Beth mae ein pobl yn ddweud

“Tra bod dysgu’n beth parhaus, mae GLlTEM yn cynnal Wythnos Dysgu yn y Gweithle, sydd bob amser yn gyfle gwych i mi gydweithio â fy nghydweithwyr â rhwydwaith ehangach o bobl.”

Audrey Lum, Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth)
Cynorthwyydd Personol i Lywydd y Siambr